SL(6)115 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2021

Cefndir a diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau ("ETS") y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 ("y prif Orchymyn") fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, fel ffordd gost-effeithiol o annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau. Cafodd ei gynllunio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae'n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â'r llwybr lleihau allyriadau sydd gennym yng Nghymru.

Mae'r ETS yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr mathau penodol o osodiadau diwydiannol a gweithredwyr mathau penodol o awyrennau fonitro, adrodd ar ac ildio "lwfansau" sy'n cyfateb i'w hallyriadau nwyon tŷ gwydr ym mhob un o flynyddoedd y cynllun. Cedwir lwfansau mewn cyfrifon yng nghofrestrfa ETS y DU, ac mae cap ar nifer y lwfansau y gellir eu creu. Ar gyfer gosodiadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, mae dau gynllun optio allan, sef un ar gyfer "ysbytai neu allyrwyr bach" ("HSE") ac un ar gyfer "allyrwyr bach iawn" ("USE"). Nid oes angen i osodiadau o'r fath ildio lwfansau.

Mae'r prif newidiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn cynnwys:

§  caniatáu i osodiadau sydd ar hyn o bryd o fewn y cynllun optio allan ar gyfer ysbytai neu allyrwyr bach (y cynllun HSE) wneud cais i gynyddu eu targedau allyriadau os rhagwelir y bydd eu hallyriadau'n cynyddu ar ôl twf yn eu capasiti;

§  cyflwyno mesurau polisi dros dro tra bod polisi ehangach yn cael ei ddatblygu o ran biodanwydd;

§  caniatáu i berson nad yw eto’n weithredwr awyrennau wneud cais am gynllun monitro allyriadau;

§  datrys gwall yn y fethodoleg ar gyfer cyfrifo dyraniad hawliau hedfan di-dâl ETS y DU i ymgeiswyr sy'n gymwys fel tyfwyr cyflym o dan ETS yr UE;

§  eithrio awdurdod ETS y DU a gweinyddwr y gofrestrfa rhag atebolrwydd i dalu iawndal wrth ymgymryd â swyddogaethau (ond nid yw'r eithriad rhag atebolrwydd yn gymwys i weithredoedd neu anweithredoedd a wneir gyda “bwriad drwg”);

§  galluogi'r rheoleiddiwr i wrthod cynllun monitro gosodiad ac i weithredwr y gosodiad apelio yn erbyn y penderfyniad i’w wrthod.

Gweithdrefn

Gwneud Negyddol.

Mae'r Gorchymyn yn Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wnaed gan Ei Mawrhydi cyn cael ei osod gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cafodd ei osod gerbron y Senedd. Gall y tair deddfwrfa arall hefyd ddirymu'r Gorchymyn, yn unol â'r rheolau ar gyfer dirymu sy'n gymwys i bob un o'r deddfwrfeydd hynny.

Materion technegol: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gosodwyd y Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Felly, mae’r Gorchymyn wedi’i wneud yn Saesneg yn unig.

Rhinweddau: Craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Ionawr 2022